BBC Cymru Fyw

Abertawe i wynebu Lerpwl a'u cyn-reolwr yn y Cwpan

Published
image captionBrendan Rodgers
Mi fydd yna wyneb cyfarwydd yn croesawu Clwb Pêl-droed Abertawe ym mhedwaredd rownd Cwpan Capital One.
Lerpwl fydd y gwrthwynebwyr yn Anfield ddiwedd y mis.
Hwn fydd y tro cynta' i Brendan Rodgers, rheolwr newydd y tîm o Lannau Mersi, gael y cyfle i herio ei hen glwb ers ffarwelio â'r Elyrch ddiwedd mis Mai.
Mae'n bosib y bydd Joe Allen, cyn-chwaraewr canol cae Abertawe, yn chwarae i'r cochion hefyd.
Llwyddodd Lerpwl i guro West Bromwich Albion o ddwy gôl i un yn y drydedd rownd yn yr Hawthorns nos Fercher.
Roedd Abertawe wedi curo Crawley o dair gôl i ddwy nos Fawrth.
Ar ôl i'r enwau gael eu tynnu o'r het, dywedodd Rodgers y byddai'r gêm yn "achlysur arbennig".
"Mae Abertawe yn glwb bendigedig, a doeddwn i ddim ar frys i adael.
"Fyddwn i ddim ond wedi gallu gadael i fynd i glwb arall arbennig. Mi fydd hi'n noson wych".
Lerpwl ydi deiliad y cwpan ar ôl curo Caerdydd yn y rownd derfynol yn Wembley ym mis Chwefror.

Straeon perthnasol

  • Abertawe yn ennill yn erbyn Crawley yng Nghwpan y Gynghrair