Rhieni'n poeni am lwybr cerdded yng Nghaerfyrddin
- Cyhoeddwyd

Mae rhieni wedi dweud eu bod yn poeni am ddiogelwch eu plant ar ôl iddi ddod i'r amlwg fod yna ymosodiad rhyw difrifol wedi bod ar ran o lwybr diogel ar gyfer disgyblion ysgol.
Dywedodd rhieni yng Nghaerfyrddin eu bod yn gofidio am y llwybr troed, sy'n cynnwys twnel dan ffordd ddeuol, o'r dref i Ysgol Gyfun Bro Myrddin.
Ddydd Iau mae grŵp o rieni yn cynnal cyfarfod protest ar ran o'r llwybr.
Dwy flynedd yn ôl protestiodd y rheini yn erbyn penderfyniad y sir i roi'r gorau i gludo plant oedd yn byw lai na thair milltir o'r ysgol yn rhad ac am ddim.
Dywedodd y sir nad oedd unrhyw orfodaeth statudol arnyn nhw i ddarparu'r gwasanaeth.
Diogel
Roedd disgwyl i ddisgyblion gerdded i'r ysgol ar hyd llwybrau oedd wedi eu penodi fel rhai diogel - neu wneud trefniadau eraill er mwyn cyrraedd yr ysgol.
Mae rhai o'r rheini wedi bod yn cludo'r plant i'r ysgol yn lle caniatáu iddyn nhw gerdded.
Eisoes mae rhieni a chynghorwyr lleol wedi dweud eu bod yn poeni y byddai'r plant yn cerdded wrth ymyl ffyrdd prysur. Roedden nhw hefyd yn anhapus fod twnnel yn rhan o un llwybr cerdded.
Yn Awst roedd ymosodiad rhyw difrifol ar ferch yn ei harddegau yn y twnnel.
Mae dyn wedi pledio'n euog i ddau gyhuddiad ac yn aros am ei ddedfryd.
'Di-dâl'
Digwyddodd yr ymosodiad yn ystod tymor y gwyliau ond mae rhieni wedi galw ar y cyngor sir i newid eu polisi er mwyn caniatáu i ddisgyblion Bro Myrddin gael trafnidiaeth ddi-dâl i'r ysgol.
Dywedodd y cyngor: "Mae'r cyngor yn darparu cludiant di-dâl yn ôl y gyfraith, sef pellter o dair milltir ar gyfer disgyblion uwchradd.
"Mae'r llwybr hefyd wedi ei asesu yn ddiogel, yn ôl canllawiau Prydeinig.
"Os yw plant yn byw o fewn tair milltir, rhieni sy'n gyfrifol am sicrhau bod y plentyn yn mynychu'r ysgol, gan gynnwys eu hebrwng nhw.
"Dylid gwneud yn glir fod y digwyddiad y tu allan i dymor yr ysgol.
"Mae'r twnel wedi ei oleuo."
Ychwnaegodd y llefarydd fod y cyngor yn gwario £9 miliwn y flwyddyn ar drafnidiaeth ysgol a £2.2 miliwn ar drafnidiaeth gyhoeddus.
"Byddai unrhyw newid i'r polisi presennol yn golygu gwariant ychwanegol sylweddol - arian sydd ddim ar gael."
Straeon perthnasol
- 13 Chwefror 2012
- 15 Chwefror 2012
- 7 Tachwedd 2009