Pencampwyr Iechyd: 1,100 wedi cofrestru
- Cyhoeddwyd

Mae mwy na 1,100 o staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru wedi cofrestru i fod yn rhan o Bencampwyr Iechyd, ymgyrch newydd i annog ffordd o fyw iachach.
Mae'r ymateb wedi bod yn uwch na'r disgwyl gan mai'r bwriad gwreiddiol oedd recriwtio 1,000 aelod o staff i gofrestru i'r her chwe mis i wella eu hiechyd.
Nawr, mae staff o bob bwrdd iechyd ac ymddiriedolaeth y gwasanaeth iechyd yng Nghymru (GIG), ynghyd ag adran iechyd a gwasanaethau cymdeithasol Llywodraeth Cymru, yn cymryd rhan yn yr ymgyrch.
Byddan nhw hefyd yn annog cleifion a'r cyhoedd ynglŷn â phwysigrwydd byw bywyd iach.
Yfed yn ddiogel
Bydd yr ymgyrch, sy'n dechrau ddydd Llun yn helpu staff i wneud dau o newidiadau iach i'w ffordd o fyw a monitro eu cynnydd dros gyfnod o chwe mis, gyda'r bwriad o'u galluogi i weld gwelliant yn eu hiechyd eu hunain.
Dywedodd Dr Ruth Hussey, Prif Swyddog Meddygol Cymru, "Rydym wedi derbyn ymateb gwych gan y staff ar hyd a lled Cymru i'r ymgyrch Pencampwyr Iechyd.
"Mae Pencampwyr Iechyd yn gyfle gwych i adeiladu ar y cyffro a grëwyd gan haf gwych o ddigwyddiadau chwaraeon ac mae heddiw yn dynodi dechrau her chwe mis a fydd nid yn unig yn annog staff y gwasanaeth iechyd i wella eu hiechyd ond a fydd yn gosod y safon ar gyfer cenedl iachach.
"Staff y gwasanaeth yw ein llysgenhadon pwysicaf a bydd arwain drwy esiampl yn dangos i'w cleifion a'r cyhoedd pa mor bwysig yw byw bywyd iach er mwyn sicrhau bod gennym Gymru ffyniannus a chynaliadwy."
Mae'r ymgyrch yn cael ei arwain gan Gyfarwyddwyr Iechyd Cyhoeddus yng Nghymru gyda chefnogaeth gan Iechyd Cyhoeddus Cymru a'r rhaglen genedlaethol 1000 o Fywydau a Mwy.
Ymarfer corff
Bydd staff sy'n dechrau cymryd rhan yn yr ymgyrch Pencampwyr Iechyd yn gwneud dau o bump o newidiadau i'w ffordd o fyw:
• Yfed yn ddiogel
• Gwneud ymarfer corff yn rheolaidd
• Bwyta'n iach
• Rhoi'r gorau i ysmygu
• Gweithio tuag at bwysau iach
Bydd pob person yn pennu eu heriau eu hunain ac yn cofnodi eu cynnydd ar-lein yn rheolaidd yn ystod y cyfnod chwe mis.
Bydd cyngor ar iechyd a ffitrwydd ar gael ar y wefan Pencampwyr Iechyd yn cynnwys cyngor a gwybodaeth ymarferol ynglŷn â gwasanaethau lleol megis canolfannau hamdden a dosbarthiadau.
Gall y staff rannu eu profiadau a chefnogi ei gilydd i gyrraedd eu nodau drwy fforwm ar-lein a'r cyfryngau cymdeithasu.
Y ddwy her fwyaf poblogaidd sydd wedi'u mabwysiadu gan y staff yw gwneud ymarfer corff yn rheolaidd a gweithio tuag at bwysau iach.
Colli pwysau
Roedd Dr Sean Young, meddyg teulu ym mhractis Cwm Garw, Pen-y-bont ar Ogwr yn un o'r bobl gyntaf i gofrestru ar gyfer y ddwy elfen hyn o ymgyrch Pencampwyr Iechyd.
Fel cyd-gadeirydd grŵp 'Byw'n Iach - Newid Er Gwell' Bwrdd Iechyd Prifysgol Bro Morgannwg, mae Sean wedi bod yn astudio materion byw'n iach ymhlith y boblogaeth.
"Mae gwella iechyd a ffitrwydd cyffredinol y boblogaeth yn hollbwysig er mwyn mynd i'r afael â'r pwysau a fydd ar y gwasanaeth iechyd yn yr hirdymor," meddai.
"Mae elfen olrhain cynnydd Pencampwyr Iechyd wedi rhoi llawer o gymhelliant i mi. Mae mesuriadau rheolaidd a'r ymdeimlad o 'gystadleuaeth' wedi fy helpu i golli pwysau yn y gorffennol.
"Hoffwn allu gwneud ymarfer corff heb golli fy ngwynt ac rwy'n gobeithio colli pwysau a lleihau mynegai màs fy nghorff drwy gymryd rhan yn y rhaglen."
Mae nifer o sêr llwyddiannus o'r byd chwaraeon yng Nghymru yn cefnogi'r ymgyrch, yn cynnwys y Pencampwr Rhwyfo Olympaidd, Tom James a'r rhedwr dros y clwydi 400m, Rhys Williams.
Straeon perthnasol
- 15 Awst 2012
- 26 Medi 2012
- 25 Medi 2012
- 20 Medi 2012
- 20 Medi 2012