Lladrad arfog yn Rhydyclafdy: Carchar i dri
- Cyhoeddwyd

Mae tri saethodd ffermwr yn ystod lladrad mewn ffermdy anghysbell wedi eu carcharu am gyfanswm o 24 blynedd.
Clywodd Llys y Goron Yr Wyddgrug fod William Ward-Jackson, 55 oed, yn credu ei fod yn mynd i farw pan ddaeth y lladron i mewn i'w gartref wrth iddo wrando ar y radio.
Roedd dau ddyn yn gwisgo mygydau wedi bygwth ei saethu cyn mynnu'r £40,000 yr oedden nhw'n credu oedd ganddo.
Gwadodd Mr Ward-Jackson fod ganddo'r fath arian ac fe adawodd y ddau, gan ddwyn dau wn oedd gan Mr Ward-Jackson.
Wedyn dychwelodd un a'i saethu yn ei goes heb reswm.
Fe gafodd Liam Roberts, 18 oed o Flaenau Ffestiniog, ei ddedfrydu i naw mlynedd dan glo wedi iddo dderbyn cyfrifoldeb am y saethu.
Cafodd Luke Evans, 18 oed o Abererch ac eisoes wedi gadael y tŷ pan ddigwyddodd y saethu, ddedfryd o wyth mlynedd.
Steven Evans, 19 oed o Flaenau Ffestiniog, oedd y gyrrwr ar gyfer y lladrad oedd wedi aros yn y car, ac fe gafodd ddedfryd o saith mlynedd.
Bydd y tri yn treulio'u dedfrydau mewn canolfan troseddwyr ieuenctid.
'Arswydus'
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry wrth y tri fod yr hyn ddigwyddodd yn "hollol arswydus".
"Roedd hwn yn lladrad brawychus a threisgar yn y cartref, gyda sawl elfen yn gwaethygu'r drosedd.
"Roedd difrifoldeb y digwydd a'r ofn a achoswyd wedi atseinio ar draws cymunedau gwledig gogledd Cymru ar y pryd.
"Ar Ragfyr 15 cafodd y dioddefwr ei dargedu. Roeddech chi'n gwybod ei fod ar ei ben ei hun, bod y tŷ yn anghysbell, bod gennych fygydau i guddio'ch wynebau ac roeddech wedi mynd ag arf gyda chi."
Cafodd y tri eu dedfrydu ar sail trefnu ymgyrch ar y cyd ac er bod y tri wedi beio'i gilydd am y saethu roedd Roberts wedi derbyn y cyfrifoldeb.
'Trais difeddwl'
Wedi'r ddedfryd, dywedodd Ditectif Sarjant Gerwyn Thomas o Heddlu'r Gogledd: "Mae'r heddlu'n croesawu'r dedfrydau yma sydd yn adlewyrchu'r trais difeddwl a ddefnyddiwyd yn erbyn dyn yn ei gartref ei hun.
"Hoffwn ddiolch iddo am ei gryfder yn ystod yr ymchwiliad.
"Roedd yr ymchwiliad yn un cymhleth, a hoffwn ddiolch i aelodau o'r cyhoedd a ddaeth â gwybodaeth allweddol i ni ar adegau pwysig yn yr ymchwiliad.
"Yn y pen draw, roedd yr ymchwiliad yn dibynnu ar dactegau plismona cudd ac rwy'n dweud hyn fel y bydd hynny'n atal eraill sy'n ceisio cyflawni troseddau difrifol yn ein cymunedau."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd22 Rhagfyr 2011
- Cyhoeddwyd17 Rhagfyr 2011