Pryderon o hyd ynglŷn â diogelu plant yn Sir Benfro
- Cyhoeddwyd

Mae 'na welliannau yn y modd mae Cyngor Sir Penfro yn diogelu plant, yn ôl adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Gwener.
Ond mae'r modd mae'r awdurdod yn ymdrin â chwynion yn erbyn swyddogion yn dal i gael eu trafod yn anghyson, meddai.
Dywdeodd llefarydd ar ran yr awdurdod eu bod yn dal i geisio gwella'r ddarpariaeth.
Arolygiaeth yr Heddlu ac Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru luniodd yr adroddiad wedi adroddiad beirniadol gafodd ei gyhoeddi ym mis Tachwedd 2011.
Cwynion
Cafodd yr adroddiad hwnnw ei baratoi ar y cyd gan Estyn ac Arolygiaeth Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru.
Mae'r adroddiad diweddaraf yn dweud bod 'na gynnydd yn nifer y cwynion yn erbyn swyddogion ond yn cydnabod y gallai hynny fod oherwydd fod na well dealltwriaeth ymhlith y cyhoedd am y broses gwyno.
Hefyd mae'r adroddiad yn tynnu sylw at y ffaith fod beirniadaeth gyson yn gallu amharu'n fawr ar ysbryd y staff yn gyffredinol.
Mae'r adroddiad yn canolbwyntio ar 20 o achosion gafodd eu trafod rhwng Ebrill 2011 ac Ebrill eleni.
Cafodd chwech o'r achosion ei trafod yn yr ymchwiliad gwreiddiol.
Roedd 19 achos yn ymwneud â staff ysgol neu'r adran addysg ac un achos yn erbyn unigolyn yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol.
Ym marn yr adroddiad, mae yna sawl rheswm am fod yn bryderus:
- diffyg dadansoddi manwl o dystiolaeth;
- nad yw trefn monitro ansawdd ac atebolrwydd yn ddigonol;
- diffyg hyfforddiant ar y cyd rhwng y gwahanol asiantaethau;
- diffyg ystyriaeth 'hyd braich' o dechrau'r broses gwyno i'r terfyn;
Mae'r adroddiad yn nodi rhai gwelliannau:
- fod yr asiantaethau yn ymateb yn fwy prydlon;
- fod ymateb yr heddlu a'r gwasanaethau cymdeithasol i gwynion yn well.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn croesawu'r adroddiad a'r argymhellion ynddo a'r ffaith fod rhai camau positif wedi eu gwneud.
"Ond fel mae'r adroddiad yn nodi mae yna leoedd lle mae angen i'r awdurdod wella," meddai'r llefarydd.
"Mae'r Gweinidog Addysg yn ail-ategu ei ymroddiad i sicrhau bod Sir Benfro yn mynd i'r afael a materion o gonsyrn."
Dywedodd y byddai Bwrdd Gweinidogol yn parhau i gydweithio gyda'r awdurdod wrth iddynt gyflwyno gwelliannau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd20 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012
- Cyhoeddwyd15 Mehefin 2012
- Cyhoeddwyd16 Gorffennaf 2012