Dyn a menyw yn y ddalfa wedi tanau ym Mhwllheli

Llys Ynadon Caernarfon
Image caption Roedd y ddau o flaen Llys Ynadon Caernarfon

Mae dyn a menyw wedi bod gerbron Ynadon Caernarfon wedi tanau mewn tai ym Mhwllheli.

Bydd Wendy Hughes, 48 oed o Bwllheli, gafodd ei chyhuddo o gynnau tân yn fwriadol, yn y ddalfa cyn iddi ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar Hydref 8.

Bydd John Medwyn Owen, 42 oed, gafodd ei gyhuddo o gynnau tân yn fwriadol, yn y ddalfa cyn iddo ymddangos yn Llys y Goron Caernarfon ar yr un dyddiad.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.