Gyrwyr bysus First Cymru'n gwrthod cynnig newydd
- Cyhoeddwyd

Mae gyrwyr bysus a pheirianwyr wedi gwrthod cynnig cyflog gwell oddi wrth gwmni First Cymru.
Felly bydd streic 24 awr ddydd Llun fydd yn effeithio ar filoedd o deithwyr yn y de a'r gorllewin.
Y cynnig diweddara' oedd codiad o 1% o Ionawr eleni a 2.5% o Ionawr y flwyddyn nesa'.
Mae'r bysus yn rhedeg yn ardaloedd Pen-y-bont ar Ogwr, Maesteg, Port Talbot, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin a De Penfro, gan gynnwys Hwlffordd.
Parhau
First Cymru hefyd sy'n rhedeg gwasanaethau Excel a bysus rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Maen nhw wedi dweud bod trafodaethau â'r undeb yn parhau.
Dywedodd Gareth Jones o undeb Unite: "Mae ein haelodau wedi gwrthod ein hargymhellion i dderbyn y cynnig.
"Felly, yn anffodus, fe fydd y streic yn cael ei chynnal ddydd Llun."
Roedd yr undeb, meddai, yn fodlon cynnal mwy o drafodaethau â chwmni First i ddatrys yr anghydfod.
£27,000
Yn gynharach yn yr wythnos dywedodd Allen Parker, Cyfarwyddwr Cyflenwi Gwasanaethau First Cymru, fod gyrwyr y cwmni yn ennill cyflog o £20,000 y flwyddyn ond bod rhai yn ennill hyd at £27,000 y flwyddyn.
Dywedodd fod staff yn cael 33 diwrnod o wyliau yn flynyddol a'u bod yn elwa o fuddiannau eraill, gan gynnwys tocynnau teithio yn rhad ac am ddim ar fysus i staff a'u teuluoedd, a gostyngiad mewn pris tocynnau trên i deithio yn y DU.
Ychwanegodd fod y diwydiant yn wynebu cyfnod heriol a bod y cwmni'n disgwyl i staff helpu'r busnes dyfu yn hytrach na "thanseilio ymdrechion" drwy streicio.
Straeon perthnasol
- 25 Medi 2012
- 21 Medi 2012
- 2 Rhagfyr 2011