BBC Cymru Fyw

Mike Phillips yn cael ei wahardd

Published
image copyrightAFP
image captionMae Phillips wedi chwarae 67 tro dros Gymru

Mae'r mewnwr Mike Phillips wedi ei wahardd gan ei glwb am gyfnod amhenodol.

Daeth cadarnhad gan glwb Bayonne fod Phillips a'r asgellwr Cedric Haymans wedi eu gwahardd.

Yn ol gwefan Sud-Ouest mae Phillips, 30 oed, wedi derbyn dirwy a chael ei wahardd am "ymddygiad annerbyniol oddi ar y cae" yn ôl Llywydd y clwb, Alain Afflelou.

Bydd y clwb yn rhyddhau datganiad ynghylch y mater maes o law.

Y Llewod

Ymunodd Phillips Bayonne o'r Gweilch yn 2011.

Ym mis Mehefin 2011 cafodd Phillips, sydd wedi chwarae 67 tro dros Gymru a thair gwaith dros y Llewod, ei wahardd o garfan Cymru am gyfnod.

Ar y pryd dywedodd Undeb Rygbi Cymru fod Phillips wedi ei wahardd oherwydd iddo fethu âa chadw at "y safon rydym yn ei disgwyl gan rywun sy'n aelod o'r garfan genedlaethol".

Daeth y gwaharddiad ar ôl nifer o straeon a lluniau trydar ynglŷn â digwyddiad y tu allan i glwb nos yng Nghaerdydd.

Straeon perthnasol

  • Bayonne yn rhyddhau Mike Phillips i ymuno â charfan Cymru

  • Ffrainc yn cynnig her newydd i Mike Phillips

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol