Arestio dyn ar amheuaeth o lofruddiaeth yng Nghwmbrân
- Cyhoeddwyd
Mae dyn 39 oed wedi ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i gorff gael ei ddarganfod yng Nghwmbrân fore dydd Gwener.
Dyw'r heddlu ddim wedi adnabod y corff yn swyddogol eto ond credir fod y dyn yn ei 40au.
Mae disgwyl i archwiliad post mortem gael ei gynnal yn ystod y penwythnos.
Dylai unrhywun sydd ag unrhyw wybodaeth gysylltu â Heddlu Gwent ar 101.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol