Gwahardd Cynghorydd Llais Gwynedd am yr eildro

  • Cyhoeddwyd

Mae un o gynghorwyr Gwynedd wedi ei wahardd yn dilyn sylwadau wnaeth e ar flog ar y we.

Mae Aeron Jones sy'n cynrychioli Llais Gwynedd yn Llanwnda wedi ei wahardd am dri mis yn ddi-dâl yn dilyn adroddiad gan Ombwdsmon Gwasanaethau Cyhoeddus Cymru.

Daw'r penderfyniad yn dilyn cwyn am sylwadau Mr Jones am flogiwr Plaid Cymru.

Yn yr adroddiad, dywedodd yr Ombwdsmon, Peter Tyndall, nad oedd Mr Jones wedi ymateb i sawl cais iddo gynnig esboniad ynghylch y mater.

Torri Côd Ymddygiad

Felly, penderfynodd Mr Tyndall gyfeirio'r mater at bwyllgor safonau Cyngor Gwynedd.

Dyfarnodd y pwyllgor fod Mr Jones wedi torri Côd Ymddygiad i Aelodau.

Cafodd Mr Jones ei wahardd gan Gyngor Gwynedd am fis y llynedd yn dilyn sylwadau ar ei flog.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol