Keith Davies AC Llanelli yn yr ysbyty

Keith Davies

Mae Keith Davies AC Llanelli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd.

Dywedodd llefarydd ar ran y Blaid Lafur iddo gael ei gymryd yno ddydd Mercher a'i fod yn cael profion yn yr uned lawdriniaeth niwrolegol.

"Mae pawb yn Llafur Cymru yn dymuno gwellhad buan iddo."

Mae'r BBC yn deall fod Mr Davies, 71 oed, yn ddifrifol wael.

Cafodd Mr Davies ei ethol i gynrychioli Llanelli yn 2011 ar ôl curo Helen Mary Jones, Plaid Cymru o 80 pleidlais.

Cyn hynny bu'n gynghorydd sir yn cynrychioli ward Hengoed Llanelli rhwng 2004-2008.

Bu hefyd yn gyn gyfarwyddwr addysg yn Sir Gaerfyrddin a Morgannwg Ganol.