BBC Cymru Fyw

Gleision yn cael crasfa

Published
image copyrightHuw Evans picture agency

Fe wnaeth Ulster sgorio saith cais wrth guro'r Gleision yng Nghaerdydd.

Mae'n golygu fod Ulster yn parhau a'u record 100% yn y Pro12.

Roedd yna ddau gais yr un i Tommy Bowe a Nick Williams i'r ymwelwyr.

Daeth ceisiadau hefyd gan Mike Allen, Andrew Trimble a Jared Payne.

Hwn oedd yr eilwaith i'r Gleision golli adref y tymor hwn.

Daeth eu hunig gais diolch i Harry Robinson.

Ciciodd Tovey tair cic gosb.

TIMAU

Gleision: Dan Fish; Harry Robinson, Dafydd Hewitt, Jamie Roberts, Tom James; Jason Tovey, Lloyd Williams; Nathan Trevett, Andi Kyriacou, Taufa'ao Filise, Bradley Davies, James Down, Robin Copeland, Andries Pretorius (capten), Sam Warburton.

Eilyddion: Rhys Williams, Campese Ma'afu, Scott Andrews, Lou Reed, Rory Watts-Jones, Rob Lewis, Gareth Davies, Tom Williams

Ulster: Jared Payne; Tommy Bowe, Michael Allen, Darren Cave, Andrew Trimble; Paddy Jackson, Paul Marshall; Tom Court, Nigel Brady, John Afoa, Neil McComb, Dan Tuohy, Iain Henderson, Chris Henry (capten), Nick Williams.

Eilyddion: Rob Herring, Callum Black, Adam Macklin, Lewis Stevenson , Mike McComish, Michael Heaney, Paddy Wallace, Craig Gilroy.

Dyfarnwr: Marius Mitrea (Yr Eidal)

Dolenni perthnasol ar y we

  • Y Gleision

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol