Yr heddlu yn chwilio am ddyn wnaeth ddwyn arian o siop deithio
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu yn ymchwilio ar ôl i ddyn ddwyn swm sylweddol o arianar ôl cyrch ar asiantaeth deithio yn Sir Benfro.
Fe aeth y dyn i mewn i siop Thomsons yn Hwlffordd ddydd Gwener a bygwth staff a chwsmeriaid.
Fe wnaeth ddwyn arian ac arian tramor.
Dywedodd Heddlu Dyfed Powys na chafodd neb eu hanafu yn y digwyddiad.
Credir bod y dyn yn ei 20au hwyr neu 30au cynnar.
Mae ganddo wallt du byr ac mae tua 5 troedfedd 8 modfedd o daldra.
Tacsi
Cafodd ei ddisgrifio fel dyn o faint canolig, yn gwisgo top glas golau a jîns glas golau gydag esgidiau rhedeg gwyn a siaced dywyll.
Dywedodd yr heddlu bod ganddo acen Gymreig a'i fod yn cario bag plastig.
Ychwanegodd yr heddlu efallai bod ganddo fag chwaraeon du gyda strap ysgwydd.
Fe wnaeth y dyn fynd i mewn i dacsi ger caffi yng ngorsaf bysiau'r dre yn fuan wedi'r digwyddiad tua 4.15pm.
Cafodd ei ollwng yn Bethany Row, ar brif ffordd yr A40, ger garej Toyota ar gyrion y dref.
Mae'r heddlu yn apelio am dystion i'r digwyddiad neu a welodd unrhyw beth amheus cyn neu ar ôl y digwyddiad.
Fe ddylai unrhyw un gysylltu gyda'r heddlu ar 101.