Caerdydd 3-0 Blackpool
- Cyhoeddwyd

Caerdydd 3-0 Blackpool
Mae record cant y cant Caerdydd adref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn parhau gyda buddugoliaeth yn erbyn Blackpool o 3-0.
Wythnos ar ôl y siom a'r sioc o golli yn Crystal Palace roedd 'na well hwyliau ar y cefnogwyr a'r chwaraewyr.
Fe wnaeth yr Adar Glas ennill yn erbyn tîm arall sy'n anelu am ddyrchafiad ar ddiwedd y tymor a hynny yn gyfforddus.
Sgoriodd Matthew Connolly ei gôl gyntaf dros Gaerdydd, a'i gyntaf dros unrhyw dîm mewn dwy flynedd a hanner, wedi 17 munud.
Wedi i Craig Bellamy greu'r cyfle, croesiad o'r ochr chwith, fe wnaeth Connolly ergydio efo'i droed dde.
O gic rydd fe wnaeth prif sgoriwr Caerdydd, Peter Whittingham, ddyblu mantais y tîm cartref.
Roedd hi'n chwip o gôl wedi 26 munud a chweched gôl Whittingham o'r tymor, yn syth i gefn y rhwyd.
Roedd ei berfformiad unigol yn ystod y gêm yn wych hefyd.
Llwyddiant
Deuddeg munud wedi'r ail hanner fe wnaeth Connolly sicrhau'r fuddugoliaeth gyda'i ail gôl.
Peniad yn ymyl y postyn pella' o gic gornel.
Un cyfle gafodd yr ymwelwyr i ddod yn agos at sgorio.
Cic rydd gan Matt Phillips wnaeth daro'r postyn.
Doedd prif sgoriwr Blackpool, Tom Ince, ddim ar gael oherwydd anaf.
Llwyddodd y tîm cartref i efelychu record wych tîm Caerdydd yn 1959.
Dyma'r tro cyntaf ers hynny i'r Adar Glas ennill eu pedair gêm gynghrair gyntaf gartref mewn tymor.
Mae hyn yn hwb mawr i ymdrech Caerdydd i sicrhau dyrchafiad gan fod y tîm wedi codi i'r brif adran ar ddiwedd tymor 1959-60.
Straeon perthnasol
- 22 Medi 2012