BBC Cymru Fyw

Nuneaton 0-0 Wrecsam

Published
image copyrightOther

Nuneaton 0-0 Wrecsam

Fe wnaeth Wrecsam lwyddo i sicrhau gêm gyfartal ddi-sgôr ar ôl taith i Nuneaton.

Dydi'r Dreigiau ddim wedi colli yn eu 10 gêm ddiwethaf yn y gynghrair.

Maen nhw'n parhau i fod yn drydydd a thri phwynt tu ôl i Gasnewydd sy'n ail.

Methodd yr ymwelwyr a churo tîm penderfynol Nuneaton.

Roedd ergyd Martin Riley yn llydan ac fe wnaeth gôl-geidwad Wrecsam Joslain Maybei wadu cyfle i Wesley York.

Aeth ergyd Chris Westwood i Wrecsam dros y traws hefyd.

Roedd 'na gyfle hefyd i chwaraewr-reolwr Wrecsam, Andy Morrell, yn yr amser am anafiadau ond bu'n rhaid i Wrecsam fodloni ar bwynt.

Straeon perthnasol

  • Wrecsam 0-0 Grimsby