Symud pobl wedi 'ffrwydrad bychan' yn Rhydaman
- Published
Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru bod 17 o bobl wedi cael eu symud o'u cartrefi ar ôl "ffrwydrad bychan" yn Rhydaman.
Roedd y digwyddiad tua 4pm ar safle cartrefi i bobl oedrannus.
Cafodd diffoddwyr tân eu galw.
Credir bod y ffrwydrad yn ymwneud â silindr nwy.
Does 'na ddim adroddiadau am dân nac anafiadau.
Cafodd yr heddlu a'r gwasanaeth tân eu galw.
Does 'na ddim sicrwydd pryd fydd y trigolion yn cael dychwelyd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol