Y Gweilch 30-15 Munster
- Published
Chwaraeodd Richard Hibbard ei 100fed gêm i'r Gweich yn erbyn Munster.
Fe ddathlodd gyda chais mewn gêm yr oedd y tîm cartref yn haeddu ei hennill.
Richard Fussell sgoriodd gais cyntaf y gêm wrth i'r tîm cartref ddominyddu yn y blaen.
Cafodd Y tîm cartref gais cosb cyn y trydydd gan Hibbard.
Roedd cicio Dan Biggar yn berffaith wrth iddo drosi pob un o'r ceisiadau.
Llwyddodd hefyd i gicio pedair cic gosb.
Fe gymhlethodd bryderon yr ymwelwyr yn hwyr yn y gêm.
Roedd pethau yn dechrau troi iddyn nhw pan gafodd Tommy O'Donnell ei anfon i'r gell cosb cyn i Damien Varley gael ei anfon oddi ar y cae.
Dyma oedd buddugoliaeth cartref cyntaf y Gweilch y tymor yma, a'r pedwerydd yn olynol yn erbyn y tîm o Iwerddon.
Methodd y Gweilch a sgorio'r pedwerydd cais a fyddai wedi sicrhau pwynt bonws iddyn nhw.
Ond maen nhw bellach yn y nawfed safle yn y tabl.