Treviso 22-20 Scarlets

George Earle yn cael ei daclo gan Alessandro Zanni a Valerio Bernabo o Treviso Image copyright Huw Evans picture agency
Image caption George Earle yn cael ei daclo gan Alessandro Zanni a Valerio Bernabo o Treviso

Cic gosb Alberto di Bernardo wnaeth sicrhau'r fuddugoliaeth ar gyfer Treviso wnaeth daro'n ôl yn erbyn y Scarlets yn Stadiwm di Monigo.

Roedd yr ymwelwyr ar y blaen 17-5 ar yr egwyl wedi dau gais gan Andy Fenby a chais i'r tîm cartref gan Leonardo Ghiraldini.

Ond daeth Treviso yn ôl yn yr ail hanner gyda cheisiau gan Robert Barbieri a Fabio Semenzato.

Ond tan y funud olaf roedden nhw'n dal yn colli.

Roedd Treviso wedi colli eu tair o'u pedair gêm agoriadol cyn nos Sadwrn tra bod eu gwrthwynebwyr wedi ennill tair o'u pedair gêm agoriadol.

Methodd Rhys Priestland gic gosb gynnar cyn llwyddo i roi'r Scarlets ar y blaen gyda chic adlam wedi 13 munud.

Cafodd capten y Scarlets, Rob McCusker, gerdyn melyn wyth munud cyn diwedd y gêm a gyda 14 dyn ar y cae bu'n rhaid i'r ymwelwyr dalu'r pris.

Daw'r gêm yma wythnos ar ôl i'r Scarlets golli yn erbyn Y Gweilch ond mae tîm Simon Easterby yn parhau yn ail yn y tabl.

CANLYNIADAU GEMAU'R PRO 12 - TYMOR 2012/12
CED CON DRE GLA GLE GWE LEI MUN SCA TRE ULS ZEB
Caeredin 12/13/14 Ebr. 3/4/5 Mai 28/29/30 Rhag. 15/16/17 Chwe. 23/24/25 Tach. 4/5/6 Ion. 18-23 26/27/28 Hyd. 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Maw. 41-10
Connacht 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 3/4/5 Mai 9-13 15/16/17 Chwe. 34-6 21/22/23 Rhag. 11-24 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 1/2/3 Maw.
DREIGIAU 32-12 23/24/25 Tach. 15/16/17 Chwe. 5-16 21/22/23 Rhag. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 26/27/28 Hyd. 37-6
Glasgow 21/22/23 Rhag. 27-17 2/3/4 Tach. 1/2/3 Maw. 19/20/21 Ebr. 23/24/25 Tach. 29/30/31 Maw. 13-18 4/5/6 Ion. 22/23/24 Chwe. 22-19
GLEISION 19-21 22/23/24 Chwe. 28/29/30 Rhag. 5/6/7 Hyd. 29/30/31 Maw. 8/9/10 Chwe. 2/3/4 Tach. 19/20/21 Ebr. 34-18 19-48 12/13/14 Ebr.
GWEILCH 22/23/24 Chwe. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 10-28 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach. 30-15 28/29/30 Rhag. 12/13/14 Ebr. 13-16 4/5/6 Ion.
Leinster 22-16 28/29/30 Rhag. 45-25 22/23/24 Maw. 26/27/28 Hyd. 3/4/5 Mai 5/6/7 Hyd. 22/23/24 Chwe. 15/16/17 Chwe. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag.
Munster 8/9/10 Chwe. 22/23/24 Maw. 33-13 30 Tach, 1/2 Rhag. 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 12/13/14 Ebr. 23/24/25 Tach. 19-6 28/29/30 Rhag. 26/27/28 Hyd.
SCARLETS 1/2/3 Maw. 8/9/10 Chwe. 5/6/7/ Hyd. 12/13/14 Ebr. 21/22/23 Rhag. 16-23 45-20 15/16/17 Chwe. 3/4/5 Mai 30 Tach, 1/2 Rhag. 2/3/4 Tach.
Treviso 19/20/21 Ebr. 29/30/31 Maw. 30 Tach, 1/2 Rhag. 26/27/28 Hyd. 22/23/24 Maw. 12-6 18-19 22/23/24 Chwe. 22-20 23/24/25 Tach. 28/29/30 Rhag.
Ulster 2/3/4 Tach. 5/6/7 Hyd. 12/13/14 Ebr. 18-10 3/4/5 Mai 8/9/10 Chwe. 21/22/23 Rhag. 20-19 4/5/6 Ion. 1/2/3 Maw. 15/16/17 Chwe.
Zebre 29/30/31 Maw. 17-30 22/23/24 Chwe. 8/9/10 Chwe. 23/24/25 Tach. 5/6/7 Hyd. 19/20/21 Ebr. 3/4/5 Mai 22/23/24 Maw. 21/22/23 Rhag. 18 Tach.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.