Noson wobrwyo BAFTA Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm
- Published
Cafodd 21ain seremoni Wobrwyo BAFTA Cymru ei chynnal yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, Bae Caerdydd, nos Sul.
Eleni roedd 'na 29 o gategorïau crefft, perfformio a rhaglenni yn cael eu gwobrwyo.
Enillodd ffilm Patagonia, dan gyfarwyddyd Marc Evans, bedair gwobr i gyd - am y cyfarwyddo, y golygu, y sain a'r colur.
Cyflwynwyd y Wobr Arbennig am Gyfraniad Rhagorol i Ddrama Teledu i'r cyfarwyddwr, John Hefin, cyn bennaeth Adran Ddrama BBC Cymru ac arloeswr yn y maes.
Craig Roberts gipiodd y wobr am yr Actor Gorau, am ei rôl fel y llanc 15 oed, Oliver Tate, yn y ffilm Submarine.
Cipiodd Sharon Morgan y wobr am yr Actores Orau yn y ffilm Resistance.
Gwobr Siân Phillips
Aeth Gwobr Siân Phillips i Robert Pugh, am ei waith ar ffilmiau mawr a rhaglenni teledu rhwydwaith.
Daeth BBC Cymru i'r brig mewn 12 categori - gan gynnwys y Rhaglen Chwaraeon Orau (Sport Wales: A Tribute to Gary Speed).
Enillodd rhaglen Lions '71, a gynhyrchwyd gan Dylan Richards, Wobr Gwyn Alf Williams yn ogystal â gwobr am yr awdur gorau i Eddie Butler.
Cipiodd rhaglen deledu Newyddion wobr am rifyn arbennig yn coffáu Medi'r 11eg, ddeng mlynedd yn ddiweddarach.
I ITV Cymru aeth y Tlws Materion Cyfoes - am raglen ddogfen yn trin y llofrudd John Cooper.
'Cyfoeth o ddoniau'
Daeth rhaglen Code Breakers: Bletchley Park's Lost Heroes (Tim Green & Julian Carey) i'r brig mewn dau gategori, gan gynnwys y Rhaglen Ddogfen Unigol orau.
Meddai Rhodri Talfan Davies, Cyfarwyddwr BBC Cymru Wales:
"Mae'r gwobrau BAFTA Cymru yn dangos y cyfoeth o ddoniau sydd gennym o fewn y wlad - sy'n gweithio yn y Gymraeg a'r Saesneg, ac ar gyfer cynulleidfaoedd yng Nghymru a'r DU.
"Mae'n wych gweld yr angerdd a'r doniau sydd gan ein timau cynhyrchu, yn fewnol ac ar draws y sector annibynnol, yn cael eu cydnabod gan BAFTA."
Straeon perthnasol
- Published
- 9 Ebrill 2010
- Published
- 6 Gorffennaf 2012
- Published
- 7 Ebrill 2012
- Published
- 3 Ebrill 2012