Codi gwaharddiad Mike Phillips
- Cyhoeddwyd

Mae clwb rygbi Bayonne wedi codi gwaharddiad ar fewnwr Cymru, Mike Phillips, ac fe fydd ar gael i chwarae yng Nghwpan Amlin wythnos i ddydd Gwener.
Roedd y clwb wedi gwahardd Phillips am gyfnod amhenodol yn dilyn ei ymddygiad oddi ar y cae.
Credir bod llywydd y clwb, Alain Affelou, wedi gwylltio bod Phillips wedi bod allan yn hwyr wedi i'r clwb golli gartref yn erbyn Toulouse.
Er mai dim ond ddydd Gwener y cyhoeddwyd y gwaharddiad, cadarnhaodd llefarydd ar ran y clwb, Nicolas Bridoux, ddydd Llun bod y gwaharddiad wedi ei godi ac y byddai Phillips yn cwrdd â Mr Affelou yr wythnos nesaf i drafod ei ymddygiad.
Nid oedd Phillips ar gael ar gyfer y fuddugoliaeth yn erbyn Biarritz dros y penwythnos ac ni fydd ar gael gyfer y gêm yn erbyn Agen y penwythnos nesaf oherwydd anaf i'w fys.
Dim effaith
Cyn i'r gwaharddiad gael ei godi, roedd cyn-gapten Cymru, Gwyn Jones, wedi dweud wrth BBC Cymru nad oedd yn credu y byddai'r gwaharddiad yn dylanwadu ar chwarae yn y tîm cenedlaethol.
"Rwy'n credu bod Warren yn meddwl y byd ohono," meddai.
"Mae Mike yn cael ei hun i drafferthion o bryd i'w gilydd, ac fe fydd yn cael ei ddisgyblu'n briodol, ond dydw i ddim yn credu y bydd hynny'n cael effaith ar farn Warren ohono.
"Os bydd popeth arall yn iawn a'i fod yn chwarae'n dda, fe fydd yn syth yn ôl yng ngharfan Cymru. Mae hyn wedi digwydd o'r blaen."
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd28 Medi 2012
- Cyhoeddwyd5 Ionawr 2012
- Cyhoeddwyd17 Tachwedd 2011
- Cyhoeddwyd17 Mehefin 2011
- Cyhoeddwyd13 Mehefin 2011