Gwasanaethau bysiau ysgol ar gael er gwaetha' streic
- Published
Fydd 'na ddim effaith ar wasanaethau bysiau ysgol yn ne a gorllewin Cymru oherwydd streic 24-awr gan gwmni First Cymru, ond bydd teithwyr sy'n defnyddio gwasanaethau arferol yn cael eu taro yn sgil yr anghydfod dros dâl.
Daw'r gweithredu, ddechreuodd am 4:00am ddydd Llun, wedi i aelodau undeb Unite wrthod dau gynnig cyflog.
Mae'r cwmni yn gwasanaethu ardaloedd Pen-y-bont, Maesteg, Port Talbot, Castell-nedd, Abertawe, Llanelli, Caerfyrddin a de Penfro, gan gynnwys Hwlffordd.
Mae hefyd yn gyfrifol am wasanaethau Excel a theithiau rhwng Abertawe a Chaerdydd.
Yn ôl cyngor Abertawe, byddai yna drefniadau eraill ar gyfer plant sy'n gymwys i deithio am ddim i'r ysgol.
Ond fe rybuddion nhw y byddai'n rhaid i blant eraill wneud eu trefniadau eu hunain.
'Cyfrifoldeb rhieni'
Dywedodd Cath Swain, o dîm trafnidiaeth y cyngor: "Cyfrifoldeb rhieni yw gwneud trefniadau i sicrhau bod eu plant yn teithio'n ôl ac ymlaen i'r ysgol yn ddiogel.
"Rydym yn cynghori rhieni plant sy'n teithio ar wasanaethau cyhoeddus First Cymru i holi eu hysgol ac i ystyried trefniadau amgen ar gyfer dydd Llun os oes angen."
Does dim effaith ar wasanaeth parcio a theithio'r cyngor.
Dywedodd cyngor Castell-nedd Port Talbot na fyddai unrhyw effaith ar lawer o'u gwasanaethau, tra bod cyngor Pen-y-bont yn dweud na allan nhw gynnig unrhyw wasanaethau ychwanegol heblaw am fysiau ysgol "o ystyried y cyllid presennol".
Yn ôl cyngor sir Gaerfyrddin, maen nhw wedi cyflwyno cynlluniau brys.
Ychwanegodd llefarydd ar eu rhan: "Rydym wedi bod yn gweithio'n galed ers clywed am y posibilrwydd o streic ac rydym wedi gwneud beth sy'n ymarferol bosib i gyflwyno trefniadau eraill lle bo modd.
"O ganlyniad fe fydd 'na drafnidiaeth amgen ar gael i'r rhan fwya' o blant ysgol a myfyrwyr."
Roedd aelodau undeb Unite, oedd wedi gwrthod cynnig codiad cyflog o 5% dros 15 mis, wedi gwrthod cynnig newydd yr wythnos ddiwetha'.
'Siom'
Dywedodd Gareth Jones o'r undeb: "Mae ein haelodau wedi gwrthod ein hargymhellion i dderbyn y cynnig.
"Felly, yn anffodus, fe fydd y streic yn cael ei chynnal ddydd Llun."
Roedd yr undeb, meddai, yn fodlon cynnal mwy o drafodaethau â chwmni First i ddatrys yr anghydfod.
Dywedodd First bod y streic wedi'u "siomi'n arw" ac y byddai 'na effaith ar bob un o ganolfannau'r cwmni, ond ychwanegon nhw na fyddai 'na effaith ar wasanaethau i ysgolion.
"Mae'r gyrwyr a'r peirianwyr yn gweithredu dros dâl, er iddyn nhw gael sawl cynnig da," meddai rheolwr cyffredinol First, Simon Cursio.
"Bydd y gweithredu yn achosi trafferthion diangen i bobl sy'n gweithio'n galed yn ne a gorllewin Cymru, sy'n dibynnu ar ein gwasanaethau i gyrraedd eu lleoedd gwaith, addysg neu hamdden.
"Hoffem ymddiheuro'n ddiffuant i'n cwsmeriaid fydd yn gweld effaith y streic hon."
Straeon perthnasol
- Published
- 28 Medi 2012
- Published
- 25 Medi 2012
- Published
- 21 Medi 2012
- Published
- 2 Rhagfyr 2011