Teuluoedd '£80 y mis yn dlotach'
- Cyhoeddwyd

Mae ymchwil BBC Cymru i ystadegau swyddogol yn awgrymu bod aelwydydd Cymru ar gyfartaledd £80 y mis yn dlotach na'r un adeg y llynedd.
Mae'r ffigyrau diweddaraf gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dangos bod incwm wythnosol aelwydydd yn y DU ar gyfartaledd wedi disgyn o £373 i£359, gydag incwm aelwydydd Cymru ar gyfartaledd 12% yn is na gweddill y DU.
O ganlyniad mae nifer gynyddol yn dibynnu ar wasanaeth y banciau bwyd.
Yn y flwyddyn ddiwetha' mae'r banciau hyn wedi bwydo 23,000 o bobol yng Nghymru ac, yn ôl elusen sy'n eu cynnal, mae tua chwarter y teuluoedd hyn mewn gwaith ond heb ddigon o incwm i dalu eu costau byw.
23 o fanciau
Agorodd Banc Bwyd Sir y Fflint yn Yr Wyddgrug ym mis Mai, ac mae eisoes wedi cynnig cymorth i 400 o bobl gan roi tri phryd y dydd iddynt am dridiau'r wythnos.
Mae banciau bwyd yn agor bellach yn Wrecsam, Dinbych, Caernarfon a Phwllheli yn y gogledd, ac yn Y Fenni, Cas-gwent a Bro Morgannwg yn y de.
Erbyn hyn mae 23 o fanciau bwyd ar agor ar draws Cymru.
Er mwyn bod yn gymwys i dderbyn parsel bwyd, rhaid i berson neu deulu gael eu hystyried yn anghenus gan elusen neu asiantaeth berthnasol a derbyn taleb arbennig - wrth gyflwyno'r daleb i fanc bwyd maen nhw'n derbyn eu parseli.
Rhys Llwyd o fanc bwyd Caernarfon yn siarad ar y Post Cyntaf.
'Nifer gynyddol'
Doedd dim syndod bod mwy yn troi at fanciau bwyd mewn argyfwng. Mi allai ddigwydd i unrhyw un - yn unrhyw le - fel yr eglura Adrian Curtis, Rheolwr Rhwydwaith Banciau Bwyd Ymddiriedolaeth Trussell.
"Gyda chostau bwyd a thanwydd yn cynyddu a chyflogau'n aros yn eu hunfan, rwy'n credu y bydd mwy o bobl yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd ac i dalu am fwyd i'r teulu a thalu eu biliau misol," meddai.
"Fe fyddech chi'n disgwyl mai'r bobl sydd ar fudd-daliadau fyddai'r rhai sydd mewn trafferthion, ond yr hyn yr ydym yn ei weld yw nifer gynyddol o deuluoedd sy'n gweithio yn ei chael hi'n anodd rhoi bwyd ar y bwrdd i'w teuluoedd ac i dalu'r biliau."
Mae'r cymorth posib ar gynnydd - ac mi fydd ei angen os fydd pethau'n aros cynddrwg ag y mae rhai yn rhagweld.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd10 Hydref 2011
- Cyhoeddwyd5 Gorffennaf 2012