Gwersi i'r Maori yng Nghymru?

Dangosodd arolwg yn 2001 bod 29,000 o bobl - 9% o boblogaeth y Maori - yn rhugl yn yr iaith Image copyright AFP
Image caption Dangosodd arolwg yn 2001 bod 29,000 o bobl - 9% o boblogaeth y Maori - yn rhugl yn yr iaith

Mae pedwar athro o Seland Newydd wedi cyrraedd Cymru i ddysgu mwy am addysg ddwyieithog mewn taith sy'n para pythefnos.

Bydd yr ymwelwyr yn gobeithio y bydd eu taith yn rhoi hwb i'r ymdrechion i ddysgu Maori yn eu mamwlad.

Dywedodd Ingrid Leary, o'r Cyngor Prydeinig yn Seland Newydd, fod gan y ddwy wlad "ddiddordeb unigryw mewn adferiad a goroesiad eu hieithoedd".

Bydd y pedwar yn ymweld ag ysgolion dwyieithog yng Nghaerdydd, Abertawe, Wrecsam a Llandudno, o dan ysgoloriaeth Linking Minds, a noddir gan y Cyngor Prydeinig.

Bydd yr athrawon - Piata Allen, Nichola McCall, Stacey Reriti-Smith a Vicki Exeter - hefyd yn cwrdd â'r Comisiynydd Iaith Meri Huws a chynrychiolwyr o'r Urdd.

"Te reo"

Image copyright Nichola McCall
Image caption Dywedodd Nichola McCall ei bod yn angerddol ynghylch iaith y Maori

Fe wnaeth "te reo" [yr iaith], ddechrau dirywio yn y 19edd ganrif.

Erbyn y 1950au roedd pryderon bod yr iaith yn marw, ond mae ymgyrchoedd gan siaradwyr yr iaith a pholisïau gan y llywodraeth ers yr 1970au wedi arwain at adfywiad.

Dangosodd arolwg yn 2001 bod 29,000 o bobl - 9% o boblogaeth y Maori - yn rhugl yn yr iaith, ac yng nghyfrifiad 2006 dywedodd tua 157,000 o drigolion Seland Newydd eu bod yn medru ei defnyddio mewn sgwrs.

'Angerddol'

Dywedodd Nichola McCall, 27 oed o Ysgol Uwchradd Manurewa, Auckland: "Dwi am siarad gydag arweinwyr cymunedol, prifathrawon ac athrawon a gofyn iddyn nhw sut maen nhw'n sicrhau cydraddoldeb rhwng y ddwy iaith.

Image copyright Murray Wilson/Manawatu Standard
Image caption Dywedodd Vicki Exeter bod yr iaith Maori yn perthyn i bawb.

"Mae hynny'n rhywbeth dwi eisiau dod 'nôl ag ef i Seland Newydd, ac mae hynny'n rhywbeth dwi'n angerddol yn ei gylch."

Ychwanegodd Vicki Exeter, o ogledd Palmerston, ei bod wedi dysgu te reo yn yr ysgol uwchradd a'i bod nawr yn ei haddysgu mewn dosbarthiadau i blant cyn oedran ysgol.

"Dwi ddim yn Faori, ond dwi am helpu gwarchod te reo a dwi'n credu bod gan athrawon gyfrifoldeb moesol i wneud hynny".

Bydd y pedwar yn ymweld ag Ysgol Treganna, Caerdydd, Ysgol Gynradd Gymraeg Lôn Las yn Abertawe, Ysgol Plas Coch yn Wrecsam, ac Ysgol John Bright yn Llandudno.

Straeon perthnasol