BBC Cymru Fyw

40 o swyddi yn y fantol

Published
image copyrightbbc
image captionMae'r hufenfa yn cyflogi cyfanswm o 140 o weithwyr

Fe allai hyd at 40 o swyddi fod mewn perygl yn Hufenfa De Arfon yn Chwilog ger Pwllheli.

Bydd cyfarfod staff yn cael ei gynnal yn yr Hufenfa brynhawn Mawrth pan fydd y rheolwyr yn egluro wrth y gweithwyr fod cwmni oedd â chytundeb i brynu hanner llaeth yfed y ffatri wedi penderfynu dod â'u cytundeb i ben ddiwedd y mis.

Mae'r hufenfa yn cyflogi cyfanswm o 140 o weithwyr, un o gyflogwyr mwyaf Llŷn ac Eifionydd.

Fe fydd staff yn clywed bod dau ddewis yn wynebu rheolwyr; naill ai i barhau gyda gweddill y busnes llaeth, neu i werthu gweddill y busnes llaeth i brosesydd arall.

Mae disgwyl penderfyniad ymhen pythefnos.

media captionAlun Rhys yn adrodd yr hanes ar y Post Cyntaf.

65 miliwn litr

Fe fydd y gwaith o gynhyrchu caws yno yn parhau.

Mae 65 miliwn litr o laeth yn cael eu prosesu i gaws yno yn flynyddol o dan label 'Dragon'.

Yr hufenfa yn Rhydygwystl, Chwilog, ydi'r unig gwmni sy'n casglu llefrith, ei brosesu a'i bacio yng Nghymru.

Straeon perthnasol

  • Label yn 'sarhau'r iaith'