April wedi mynd i'r fan 'o'i gwirfodd'
- Cyhoeddwyd
Mae'r heddlu sy'n chwilio am ferch bump oed gafodd ei chipio o stryd ym Machynlleth, Powys, wedi rhoi mwy o fanylion am y fan yr aeth hi i mewn iddi.
Roedd April Jones yn chwarae gyda ffrindiau ger ei chartre' pan aeth i mewn i'r fan tua 7:00pm nos Lun.
Cadarnhaodd yr heddlu ddydd Mawrth eu bod yn credu ei bod hi wedi ei herwgipio ond ei bod yn ymddangos ei bod wedi mynd i mewn i'r cerbyd o'i gwirfodd.
Mae cannoedd yn helpu i chwilio am y ferch oedd yn gwisgo cot liw porffor gyda ffwr ar ei chwfl, crys gwyn a throwsus du.
Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio rhif arbennig, 0300 2000 333.
Drws y gyrrwr
Mewn cynhadledd newyddion amser cinio dywedodd y Ditectif Uwch-arolygydd Reg Bevan eu bod wedi cael rhagor o wybodaeth gan ffrindiau April oedd wedi bod yn chwarae gyda hi cyn iddi ddiflannu.
"Fe soniodd llygad-dystion am fan fechan - bychan yn y tu blaen a mwy yn y cefn," meddai.
"Gallai hyn fod yn rhywbeth tebyg i fan Ford Connect neu rywbeth fel Land Rover.
"Aeth April i mewn trwy ddrws y gyrrwr, felly fe alla' hi fod wedi mynd i mewn gyda'r gyrrwr neu fod y cerbyd yn gerbyd gyriant ochr-chwith. Rwy'n awyddus i ganolbwyntio meddyliau pobl ar hynny.
"Dyw'r lliw ddim wedi newid - mae'n cael ei ddisgrifio fel llwyd ond mae swyddogion yn ymwybodol ei bod hi'n tywyllu a bod 'na oleuadau stryd ymlaen.
"Mae'n ymddangos ei bod hi wedi mynd i mewn i'r cerbyd o'i gwirfodd ... Does dim byd i awgrymu ar yr adeg yma ei bod hi wedi brwydro."
Ychwanegodd y Ditectif Uwch-arolygydd Bevan fod yr heddlu'n canolbwyntio eu hymdrechion ar yr ardal gyfagos yn dilyn cyngor arbenigol.
Hofrenyddion
Pan ofynnwyd iddo am deulu April, dywedodd: "Fel y gallwch ddychmygu, mae'n rhaid mai dyma eu hunlle' waetha' felly mae'n rhaid ei fod yn amser anodd iawn iddyn nhw."
Dywedodd fod ei swyddogion yn cael cymorth heddluoedd eraill o Gymru a rhai o Loegr, o dan y System Achub Plant.
Mae'r system yn cyfuno ymdrechion yr heddlu, y cyfryngau a'r cyhoedd i geisio dod o hyd i blant sydd wedi'u cipio drwy gyhoeddi eu manylion cyn gynted â phosib.
Fe ddiflannodd April yn agos at ei chartre' ar Stad Bryn y Gôg ym Machynlleth.
Mae ffyrdd wedi eu cau wrth i swyddogion barhau i archwilio'r ardal gyfagos.
Yn ogystal â hofrenyddion a chŵn yr heddlu, a'r gwasanaeth tân, mae gweithwyr cyngor a chwmnïau bysiau yn helpu gyda'r chwilio.
Yn y cyfamser, mae'r heddlu wedi canmol "ymateb anhygoel" y gymuned.
Mae cannoedd o bobl wedi ymgynull yn y ganolfan hamdden leol i gynnig cymorth.
'Tref fechan'
Roedd cynghorydd tref Machynlleth, Michael Williams, yn un o'r rhai fu'n cynorthwyo gyda'r chwilio, a dywedodd fod ymateb y bobl leol wedi eu syfrdanu.
"Rwyf wedi byw yma ar hyd f'oes ac erioed wedi clywed am rywbeth fel hyn yn digwydd o'r blaen," meddai.
"Gobeithio i'r nefoedd y down ni o hyd i'r ferch fach yma cyn hir.
"Mae'n dangos hyn - mewn tref fechan fel Machynlleth pan mae rhywbeth fel hyn yn digwydd mae pawb allan yn chwilio."
Mae Anwen Morris yn gyfaill i'r teulu, a bu'n rhan o'r ymgyrch i chwilio am April.
"Mae'n gymuned agos yma ac mae'r gefnogaeth a gawsom dros nos wedi bod yn anghredadwy," meddai ynghynt fore Mawrth.
"Yr hyn sydd angen nawr yw golau dydd ac mae angen i'r bobl yma helpu ni i chwilio yng ngolau dydd er mwyn, gobeithio, dod o hyd iddi."
Roedd Ms Morris yn annog pobl i fynd i Ganolfan Hamdden Bro Ddyfi lle mae cydlynwyr yn dosbarthu mapiau a llwybrau i bobl fynd i chwilio.
Yn y cyfamser, mae swyddogion cyswllt yr heddlu yn rhoi cymorth i'r teulu wrth i'r ymchwiliad barhau.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd2 Hydref 2012