Disgyn i freichiau cariad cyn marw

  • Cyhoeddwyd
Emma Louise JonesFfynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Bu farw Emma Jones yn syth ar ôl cael ei thrywanu yn ei brest fis Rhagfyr diwetha'

Clywodd Llys y Goron Caernarfon fod merch wedi disgyn yn anymwybodol i freichiau ei chariad ar ôl cael ei thrywanu bythefnos cyn y Nadolig.

Bu farw Emma Jones, 31 oed, ar ôl ffrae mewn parti ym Mhenygroes fis Rhagfyr diwetha'.

Mae Alwen Jones, 24 oed o Lanllyfni, yn gwadu ei llofruddio.

Wrth roi tystiolaeth yn y llys ddydd Mawrth, roedd David Hughes, cariad Emma Jones, yn aml yn ei ddagrau wrth ddisgrifio sut yr oedd y ddau ohonynt wedi mynd i barti yn y fflatiau ger eu cartref ar Ragfyr 10 y llynedd.

Dim ond ers hanner awr oedden nhw yno pan glywodd sŵn gweiddi a rhywun yn galw ei enw.

Aeth lawr y grisiau a gweld ei gariad yn sefyll wrth y drws, gyda gwaed ar ei dillad.

Pan afaelodd Mr Hughes amdani, fe ddisgynodd yn erbyn wal ac yna disgyn i'r llawr.

Cyllell

Mae'r llys wedi clywed iddi farw bron ar unwaith ar ôl cael ei thrywanu yn ei brest.

Yn ôl y diffynydd, Alwen Jones, ei bwriad oedd amddiffyn hi ei hun a'i chwaer, oedd wedi bod yn ffraeo gydag Emma'n gynharach.

Clywodd y llys fod Alwen Jones wedi cerdded i'r parti o'i chartref gyda chyllell ar ôl clywed am y ffrae.

Wrth gael ei groesholi, cytunodd David Hughes ei fod wedi dweud wrth yr heddlu: "Does neb yn rhoi trwbl i ni - mae pawb yn gwybod yn well o gwmpas fan'ma."

Dywedodd fod merched lleol yn arfer ofni Emma am ei bod hi wedi rhoi cweir i rai ohonyn nhw yn y gorffennol.

Ond ychwanegodd ei bod hi wedi newid ers hynny.

Ddydd Mawrth cafodd y rheithgor eu cludo o gwmpas Dyffryn Nantlle i weld y lleoliadau pwysig yn yr achos.

Mae'r achos yn parhau.