Grid Cenedlaethol: Cynlluniau ynni carbon isel
- Published
image copyrightNational Grid
Bydd y Grid Cenedlaethol yn datgelu eu cynlluniau ddydd Mercher ar gyfer cynhyrchu ynni carbon isel yng ngogledd Cymru.
Mae'r cwmni am gysylltu ffynonellau ynni newydd i "gryfhau'r rhwydwaith presennol" a bydd y manylion yn cael eu datgelu mewn cyfarfod yng Nghaernarfon, Gwynedd.
Bydd staff wrth law i esbonio mwy am y strategaeth y maen nhw wedi ei dewis a sut y gwnaed y penderfyniad.
Bydd y Grid Cenedlaethol yn rhoi manylion o'r gwaith, ac yn dweud sut y bydd aelodau o'r cyhoedd yn rhan o'r broses o wneud penderfyniadau.
Bydd y gyntaf mewn cyfres o gyfarfodydd yn cael ei gynnal yn y Galeri, Caernarfon rhwng 10:30am a 1:00pm ddydd Mercher.
Straeon perthnasol
- Published
- 2 Gorffennaf 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol