Caerdydd 2-1 Birmingham
- Published
Caerdydd 2-1 Birmingham
Mae record cant y cant Caerdydd adref yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn parhau gyda buddugoliaeth yn erbyn Birmingham, gan eu codi i frig y bencampwriaeth.
Llwyddodd y tîm cartref i guro record wych tîm Caerdydd yn 1959, a enillodd eu pedair gêm gynghrair gyntaf gartref mewn tymor. Cododd y tîm i'r brif adran ar ddiwedd tymor 1959-60.
Mae'r tîm presennol nawr wedi ennill eu pump gêm gynghrair gyntaf gartref.
Peter Whittingham a Mark Hudson gyfunodd i roi'r cyfle i Craig Bellamy i sgorio wedi 39 munud.
Leroy Lita, ar fenthyg o Abertawe, gosbodd trosedd Mark Hudson i ddod â'r sgôr yn gyfartal o gic rydd o 10 llath wedi 53 munud.
A'r capten Hudson seliodd y fuddugoliaeth wrth sgorio o flaen y gôl yn dilyn cic gornel Peter Whittingham dair munud yn ddiweddarach.
Straeon perthnasol
- Published
- 22 Medi 2012