Gwahardd cyn-gadeirydd Clwb Pêl-droed Caerdydd

Peter Ridsdale Image copyright Not Specified
Image caption Mae Peter Ridsdale wedi ei wahardd am saith mlynedd a hanner

Mae cyn-gadeirydd clwb pêl-droed Caerdydd wedi cael ei wahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am saith mlynedd a hanner.

Daw hyn yn sgil ymchwiliad y Gwasanaeth Methdaliad.

Roedd Mr Ridsdale, 60 oed o Carnforth Sir Gaerhirfryn, yn gyn-gadeirydd clybiau Leeds a Barnsley.

Mae wedi rhoi ymrwymiad i beidio â gweithredu fel cyfarwyddwr cwmni na chwaith reoli cwmni mewn unrhyw fodd o Hydref 19 eleni tan Ebrill 18, 2020.

Daw hyn oherwydd ei ymddygiad pan oedd yn gyfarwyddwr cwmni W H Sports Group (WHSG).

Gweinyddwyr

Cafodd ei wraig, Sophie Victoria Ridsdale, 45 oed - a chyd-gyfarwyddwr WHSG - ei gwahardd rhag bod yn gyfarwyddwr cwmni am dair blynedd a hanner.

Roedd WHSG yn masnachu rhwng 2003 a 2007 ac yn cynnig gwasanaeth ymgynghori i glybiau pêl-droed.

Aeth y cwmni i ddwylo'r gweinyddwyr ar Ebrill 22, 2009, gyda dyledion o £478,698, ac asedau o £22,592.

Roedd £442,353 o'r ddyled yn arian oedd yn ddyledus i'r Swyddfa Tollau a Threth.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.