Cwmni o Dwrci yn agor ffatri yng Nghaerdydd
- Published
Bydd cwmni o Dwrci sy'n cynhyrchu pibellau metel yn agor ffatri ar gost o £7m yng Nghaerdydd, gan greu 38 swydd.
Cafodd y cytundeb â chwmni HDM Steel Pipes ei gyhoeddi ar ddechrau taith fasnach y Dirprwy Brif Weinidog, Nick Clegg, i Dwrci.
Bwriad ymweliad Mr Clegg a'r Gweinidog Busnes Michael Fallon yw diogelu cytundebau gwerth £500m.
Mae 18 arweinydd busnes wedi teithio gyda'r gweinidogion i brifddinas Twrci, Ankara, a dinas fwyaf y wlad, Istanbul.
"Twrci yw seithfed economi fwyaf Ewrop ac un o farchnadoedd fwyaf y byd," meddai Mr Clegg.
"Mae'n wych cael cyhoeddi swyddi newydd ar gyfer y DU a chytundebau mor nodedig i fusnesau Prydain.
"Fy mhrif fwriad yr wythnos hon yw sicrhau bod mwy o gwmnïau Prydeinig yn bachu ar y cyfle economaidd y mae Twrci yn ei gynnig."