AA: 400 o swyddi dan fygythiad yng Nghaerdydd
- Published
Mae dros 400 o swyddi dan fygythiad yng nghanolfan alwadau cymdeithas foduro'r AA yng Nghaerdydd.
Cafodd staff wybod fore Mawrth.
Mae'r 406 o swyddi yn adran yswiriant ceir a chartref y cwmni ac un ffactor yw mwy o bobl yn defnyddio'r we i chwilio am yswiriant.
Cyfnod ymgynghorol
Dywedodd yr AA y byddai'r cwmni'n debygol o ganolbwyntio adnoddau yn eu canolfan alwadau ffôn yswiriant ceir yn Newcastle, gan greu 183 swydd yno.
Ychwanegodd y cwmni y byddai'r Ysgol Yrru a rhai gweithgareddau eraill yng Nghaerdydd yn aros ar agor, gan warchod 150 o swyddi.
Bydd y rhain yn symud i leoliad newydd yn y ddinas cyn i brydles y swyddfa yn Heol Penarth ddod i ben ymhen dwy flynedd.
Mae'r cwmni wedi dechrau cyfnod ymgynghorol o 90 diwrnod â chynrychiolwyr busnes a'r undeb.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Chwefror 2011
- Published
- 18 Awst 2005