Cynghorwyr i drafod ffyrdd mwy effeithiol o weithredu
- Cyhoeddwyd

Mae'r adroddiad sy'n cael ei ystyried gan Gyngor Ynys Môn ddydd Iau wedi ei baratoi gan gwmni arbenigol y maes rheoli.
Bwriad adroddiad yr "Hay Group" ydi cynnig argymhellion i geisio moderneiddio y ffordd mae'r awdurdod yn gweithredu.
Sawl tro yn y gorffennol mae Cyngor Ynys Môn wedi cael ei feirniadu oherwydd diffyg cydweithio a diffyg tryloywder. Mae'r adroddiad sydd yn cael e drafod yn canolbwyntio ar strwythurau mewnol.
Wythnos yn ôl cyhoeddodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sergeant fod ymddygiad cynghorwyr Ynys Môn wedi gwella i'r fath raddau fel ei fod wedi penderfynu lleihau dylanwad y Comisiynwyr sydd wedi bod yn gyfrifol am reoli'r awdurdod ers y llynedd.
Os bydd y Gweinidog yn fodlon bod y sefyllfa yn parhau i wella, yna fe allai ddod a'r ymyrraeth i ben yn gyfan gwbwl ar ôl etholiad y Cyngor Sir sydd i'w gynnal ym Mis Mai 2013.
Pwnc arall fydd dan sylw'r cynghorwyr ddydd Iau yw'r ffordd ymlaen yn dilyn adroddiad damniol gan yr arolygwyr addysg Estyn i gyflwr addysg yn y sir. Dywedodd Gareth Jones, un o'r comisiynwyr sydd wedi camu o'r neilltu yn ddiweddar wrth BBC Cymru
"Rydw i yn croesawu penderfyniad Cyngor Ynys Môn i fynd i'r afael a rhai o'r problemau difrifol gafodd eu nodi yn adroddiad Estyn. Mae nhw'n broblemau sydd wedi bod yn y gwasanaeth addysg ers rhai blynyddoedd"
Neges graidd y ddau adroddiad yw y dylai Cyngor Ynys Môn ganolbwyntio rŵan ar sut maen nhw yn darparu gwasanaethau ar gyfer trethdalwyr.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd25 Medi 2012
- Cyhoeddwyd19 Medi 2012
- Cyhoeddwyd1 Awst 2012
- Cyhoeddwyd16 Awst 2011
- Cyhoeddwyd9 Mai 2012