April: Pedwerydd diwrnod y chwilio
- Published
Mae'r heddlu yn dweud eu bod am chwilio ardal ehangach am y ferch fach bump oed, April Jones.
Mae cydlynwyr y chwilio am ganolbwyntio ar 32 o bentrefi mewn 15 ardal o gwmpas Machynlleth, ac fe fydd pobl yn ymgynnull yng Nghanolfan Hamdden Bro Ddyfi am 8:00am a 9:00am er mwyn paratoi am hynny.
Nos Fercher fe gafodd yr heddlu 12 awr ychwanegol i holi Mark Bridger, y dyn 46 oed a gafodd ei arestio ar amheuaeth o'i chipio.
Dros nos bu'r heddlu yn chwilio dros 20 o leoedd gwahanol ym Machynlleth a'r cyffiniau lle cafodd April ei gweld am y tro diwethaf ddydd Llun.
Mae swyddogion wedi cadarnhau bod April yn diodde' o barlys yr ymennydd.
Dywedodd ei mam bedydd bod y salwch yn golygu bod angen meddyginiaeth yn ddyddiol arni, a heb hwnnw fe fyddai mewn poen.
Mewn cynhadledd newyddion ddydd Mercher, eglurodd y Ditectif Uwch-Arolygydd Reg Bevan bod ei swyddogion wedi derbyn dros 400 o alwadau ers ei apêl am wybodaeth am symudiadau Mark Bridger rhwng nos Lun a phrynhawn Mawrth.
"Rydym yn gweithio'n ddyfal drwy'r wybodaeth yna," meddai.
'Cefnogaeth ddigynsail'
Aeth ymlaen i ddweud: "Rydym yn canolbwyntio ar dros 20 o leoliadau. Rydym wedi chwilio nifer ohonynt yn ardal Machynlleth, ac mae'r chwilio yna'n parhau."
Ychwanegodd yr Uwch-Arolygydd Ian John: "Nid yw Heddlu Dyfed-Powys ar eu pennau eu hunain. Rydym yn derbyn cefnogaeth ddigynsail gan weddill y DU."
Wrth roi mwy o fanylion, dywedodd Mr John: "Mae nifer fawr o leoliadau, ac maen nhw'n wahanol iawn o ran natur.
"Mae'r tirwedd a'r daearyddiaeth yn heriol iawn. Cafodd ei ddisgrifio fel amgylchedd elyniaethus.
"Mae gennym afon sy'n gorfifo i weithio i'r chwmpas hefyd.
"Rhaid i mi bwysleisio amrywiaeth y safleoedd. Mae yna dai, adeiladau eraill, lleoedd agored a glannau afon.
"Dros y 24 awr nesaf mae gennym gynlluniau am swyddogion chwilio arbenigol i chwilio am April."
Wrth siarad am Mark Bridger, ychwanegodd Ditectif Uwch-Arolygyddd Bevan: "Cafodd ei gyfweld ddwywaith.
"Yn amlwg rydym yn canolbwyntio ar ddod o hyd i April, a dyna yw'r prif faes trafod gydag ef."
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar linell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.
Straeon perthnasol
- Published
- 3 Hydref 2012
- Published
- 3 Hydref 2012
- Published
- 3 Hydref 2012
- Published
- 2 Hydref 2012
- Published
- 2 Hydref 2012