Parcio di-dâl ym Mhowys yn ystod cyfnod y Nadolig
- Published
Mae Cyngor Powys wedi penderfynu darparu parcio di-dâl mewn meysydd parcio am 17 diwrnod cyn y Nadolig.
Penderfynodd cabinet y cyngor sir gymeradwyo cynllun i ddarparu parcio am ddim yn eu meysydd parcio rhwng Rhagfyr 8 a dydd Nadolig.
Dywed adroddiad gan Barry Thomas, aelod o Gabinet Powys sydd â chyfrifoldeb am briffyrdd, mai bwriad y cynllun oedd cefnogi busnesau lleol yn 13 o brif drefi'r sir.
Yn ôl ymchwil byddai'r sir wedi gobeithio casglu incwm o £42,000 drwy godi tal am barcio.
Byddai wedi costio £70,000 am ganiatáu parcio di-dâl drwy gydol mis Rhagfyr.
Yn ôl y cyngor bydd y cynllun yn cael ei ariannu o benderfyniad aelodau cabinet y sir ym mis Mai i dderbyn lwfans is - arbediad o £47,000.
Roedd yr hen weinyddiaeth oedd mewn grym cyn mis Mai wedi cytuno i dderbyn lwfans uwch.
Straeon perthnasol
- Published
- 25 Mai 2012
- Published
- 23 Mai 2012
- Published
- 24 Mai 2012
- Published
- 17 Mai 2012