Tair menyw yn yr ysbyty oherwydd damwain ger Pont Abraham
- Cyhoeddwyd

Roedd y ddamwain tua 12.30pm
Mae tair menyw yn yr ysbyty wedi damwain ddifrifol ar draffordd yr M4 tua 12.30pm.
Am gyfnod roedd tagfeydd hir o droad Yr Hendy ger Pontarddulais i gylchdro Pont Abraham yn Sir Gaerfyrddin.
Dau gerbyd oedd wedi taro yn erbyn ei gilydd ar y cylchdro ger y gwasanaethau ar Gyffordd 49.
Cafodd yr heddlu ac ambiwlans awyr eu galw.