Darganfod bom llaw yn ysgol uwchradd Y Drenewydd
- Published
Cafodd bom llaw ei ddarganfod yn ysgol uwchradd Y Drenewydd brynhawn dydd Iau.
Mae Heddlu Dyfed Powys yn rhwystro pobl rhag mynd i'r ardal.
Mae'r plant yn parhau yn yr ysgol.
Yn ôl yr heddlu maen nhw'n aros i swyddogion y Weinyddiaeth Amddiffyn gyrraedd yr ysgol.