Damwain: Menyw yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd
Cafodd menyw ei chludo i'r ysbyty ar ôl damwain ddifrifol ar ffordd yr A489 ger Machynlleth nos Iau.
Bu'n rhaid i Wasanaeth Tân ac Achub Canolbarth a Gorllewin Cymru ryddhau'r fenyw o'i cherbyd.
Cafodd ei chludo mewn hofrennydd i Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth.
Mae wedi cael anafiadau i'w choesau.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol