April: Arestio Mark Bridger ar amheuaeth o lofruddiaeth
- Published
Mae Heddlu Dyfed Powys wedi cadarnhau ddydd Gwener eu bod bellach yn holi Mark Bridger ar amheuaeth o lofruddio April Jones.
Mae'r dyn lleol 46 oed yn dal i gael ei holi gan dditectifs yn Aberystwyth ynglŷn â'i diflaniad.
Mae gan yr heddlu tan 5pm heno i gyhuddo neu ryddhau Mark Bridger, neu mi allen nhw wneud cais i'w holi ymhellach.
Buodd yr heddlu allan drwy'r nôs yn ceisio dod o hyd i'r ferch bump oed gafodd ei chipio ger ei chartre ym Machynlleth tua 7pm nos Lun.
Yn ystod dydd Iau bu plismyn yn archwilio cartref Mark Bridger ym mhentre Ceinws.
Datgelodd yr heddlu eu bod nhw wedi derbyn 2,500 o negeseuon gan y cyhoedd ar ôl iddyn nhw ofyn am wybodaeth ynglŷn â symudiadau Mark Bridger rhwng 6:30pm nos Lun a 3:30pm ddydd Mawrth.
"Mae angen ateb bob un o'r galwadau a bydd hynny'n cael ei wneud gan bob un o'r 44 o luoedd yr heddlu led led y wlad." meddai'r Uwch Arolygydd Ian John.
Mae'r heddlu yn dal yn awyddus i glywed gan unrhywun a welodd Mark Bridger neu ei Land Rover glas tywyll yn y cyfnod dan sylw.
Effaith ar blant yr ysgol
Mewn cyfweliad ar y Post Cyntaf ddydd Gwener eglurodd Gwenfair Glyn, prifathrawes April yn Ysgol Gynradd Machynlleth fod ei diflaniad wedi cael effaith fawr ar y disgyblion.
"Mae hi wedi bod yn wythnos hynod o heriol," meddai.
Ychwanegodd fod seicolegwyr plant wedi bod yn gweithio gyda'r disgyblion ac y byddan nhw'n parhau i wneud hynny yr wythnos nesaf.
Mae'r ysgol wedi cael ei chynghori i beidio dod â'r plant i gyd at ei gilydd ar gyfer gwasanaethau rhag ofn i hynny achosi gofid i ambell i blentyn.
Canmol staff
Mae rhieni wedi canmol y modd y mae staff yr ysgol wedi delio gyda diflaniad April.
Roedd nifer o'r rhieni am gadw'u plant adref o'r ysgol ddydd Mawrth, ond fe wnaeth staff Ysgol Gynradd Machynlleth dawelu pryderon.
Dywedodd un rhiant: "Doeddwn i ddim am i fy mhlant ddod yma. Roeddwn i'n bryderus am fy mod i wedi gorfod dweud wrthyn nhw beth oedd wedi digwydd i April.
"Ond hoffwn ddiolch i'r athrawon am wneud iddyn nhw deimlo mor ddiogel, a gwneud i mi deimlo'n ddigon diogel i ddod â nhw yma."
Mae timau Gwylwyr y Glannau wedi ail ddechrau chwilio am April Jones ddydd Gwener. Mae cannoedd o wirfoddolwyr hefyd yn dal i helpu'r heddlu wrth iddyn nhw archwilio pentrefi ac ardaloedd o fewn talgylch 15 milltir i Fachynlleth.
Mae Heddlu Dyfed-Powys yn gofyn i unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu gyda nhw ar linell ffôn arbennig, sef 0300 2000 333.
Straeon perthnasol
- Published
- 4 Hydref 2012
- Published
- 4 Hydref 2012
- Published
- 3 Hydref 2012
- Published
- 3 Hydref 2012
- Published
- 3 Hydref 2012
- Published
- 2 Hydref 2012
- Published
- 2 Hydref 2012