Hyder "ar y cyfan" yn safonau academaidd Prifysgol Aberystwyth
- Published
Mae Prifysgol Aberystwyth wedi dweud eu bod wedi gwella'r modd y mae'n nhw yn rheoli eu perthynas â sefydliadau eraill yn dilyn arolwg.
Ar y cyfan roedd yr Asiantaeth Sicrhau Ansawdd Addysg Uwch (ASA), yn fodlon gyda safonau academaidd y brifysgol.
Ond roedd yr arolwg yn feirniadol o reolaeth weinyddol y Brifysgol o rai cyrsiau y mae'r sefydliad yn ei dilysu.
Arfer da
Roedd yr Adolygiad Sefydliadol ym misoedd Ebrill a Mai eleni'n adolygiad ASA swyddogol gan gymheiriaid o safonau ac ansawdd.
Roedd adolygwyr ASA yn fodlon iawn gyda gwaith y Brifysgol mewn sawl maes, yn cynnwys:
• y cysylltiadau cryf mewn adrannau academaidd rhwng gwaith ymchwil, addysgu a dysgu'r myfyrwyr
• ei hymrwymiad i gydnabod a gwobrwyo rhagoriaeth mewn addysgu
• lledaeniad arferion da mewn dysgu ac addysgu, yn enwedig dysgu wedi'i wella gan dechnoleg
• y gefnogaeth a'r datblygiad sydd ar gael i fyfyrwyr ymchwil ôl-raddedig.
Ond daeth yr adroddiad i'r casgliad bod angen gwella rheolaeth weinyddol syn gysylltiedig a darpariaeth gydweithredol y Brifysgol.
Mae gan Aberystwyth bartneriaethau gyda thri darparwr yng Nghymru ac wyth yn rhyngwladol - ac mae prif ffocws partneriaethau rhyngwladol y dyfodol ar waith ymchwil, trosglwyddo gwybodaeth a chyfnewidiadau staff a myfyrwyr.
Dywedodd y Brifysgol eu bod wedi ymateb i'r feirniadaeth trwy benodi Rheolwr Partneriaethau Rhyngwladol. Mae yna Bwyllgor hefyd wedi ei sefydlu i arolygu'r drefniadaeth.
Bydd yn cael ei gadeirio gan y Dirprwy-Is Ganghellor John Grattan.
Pwyslesiodd llefarydd ar ran Prifysgol Aberystwyth mai rheolaeth weinyddol "nifer fechan iawn" o gyrsiau gafodd eu beirniadu yn yr arolwg.
Straeon perthnasol
- Published
- 27 Mehefin 2012
- Published
- 7 Chwefror 2012
- Published
- 14 Ebrill 2012
- Published
- 13 Ebrill 2012