Adeiladwr yn euog o ddynladdiad Meg Burgess
- Published
Mae adeiladwr wedi ei gael yn euog o ddynladdiad wedi i ferch dair oed farw ar ôl i wal bum troedfedd o uchder ddisgyn arni.
Roedd George Collier, o Fae Cinmel, wedi gwadu'r cyhuddiad yn Llys y Goron Yr Wyddgrug.
Cafodd ei ddedfrydu i ddwy flynedd o garchar.
Clywodd y llys fod Collier yn gweithio ar beiriant i lefelu tir ar y safle a'i fod wedi stopio gweithio i adael Meg Burgess, ei brawd, Wilson, a'i mam, Lindsay, drwyddo wrth iddynt gerdded i siopa ar Orffennaf 26 2008.
Ond wrth iddyn nhw ddychwelyd o'r siopau gan gerdded ar hyd y palmant gerllaw bwthyn yng Ngallt Melyd, fe ddisgynnodd y wal bum troedfedd, oedd newydd gael ei chodi, ar ben Meg.
Ceisiodd ei mam ac adeiladwyr dynnu'r brics a'r pridd oddi arni ond cadarnhawyd ei bod wedi marw 10 munud ar ôl iddi gyrraedd Ysbyty Glan Clwyd, Bodelwyddan.
Ni chafodd y cwmni Parcol Developments, yr oedd Collier yn gyfarwyddwr arno, gosb ar wahân.
Straeon perthnasol
- Published
- 24 Medi 2012
- Published
- 18 Medi 2012
- Published
- 25 Mai 2012
- Published
- 7 Rhagfyr 2011
- Published
- 3 Hydref 2011
- Published
- 5 Awst 2011
- Published
- 8 Ebrill 2011
- Published
- 30 Mawrth 2011
- Published
- 22 Awst 2010