Croesawu dirwy am daflu gwm cnoi
- Cyhoeddwyd

Mae grŵp Cadwch Gymru'n Daclus yn dweud eu bod yn gobeithio y bydd dirwy i fenyw am daflu gwm cnoi ar lawr yn atal eraill rhag gwneud yr un peth.
Cafodd y fenyw y ddirwy o £75 gan swyddogion o Gyngor Sir Gaerfyrddin y tu allan i fwyty McDonalds yn Cross Hands.
Dywedodd y cyngor mai dyma'r tro cyntaf iddyn nhw gyflwyno dirwy am sbwriel gwm cnoi.
'Mesurau eraill'
Mae hyn yn "broblem anferth" yn ôl Cadwch Gymru'n Daclus, gan groesawu unrhyw beth fyddai'n rhwystro mwy o droseddau.
"Fel arfer byddai Cadwch Gymru'n Daclus yn argymell cymysgedd o godi ymwybyddiaeth ac addysg, ond weithiau dyw hynny ddim yn ddigon ac mae angen mesurau eraill," meddai llefarydd.
"Os mai cosb yw hynny, yna rydym yn croesawu unrhyw beth sy'n atal pobl eraill rhag taflu sbwriel neu gwm cnoi ar lawr oherwydd mae'n ddrwg i'r amgylchedd."
Fe welwyd y fenyw gan y swyddogion yn taflu'r gwm ar lawr cyn iddi ysmygu sigarét cyn taflu hwnnw ar lawr hefyd.
"Dyma'r tro cyntaf i ni gyflwyno dirwy yn benodol am daflu gwm cnoi ar lawr," meddai'r Cynghorydd Jim Jones, aelod o gabinet y cyngor gyda chyfrifoldeb am yr amgylchedd a gwarchod y cyhoedd.
"Mae ein swyddogion yn teithio o amgylch y sir, ond fe all fod yn anodd dal pobl yn troseddu."
'Glanach'
Ychwanegodd Mr Jones nad oedd gan y cyngor ddewis ond dirwyo pobl os nad oedden nhw'n rhoi sbwriel mewn bin.
Dywedodd: "Rwy'n gobeithio y bydd pobl yn talu sylw i'r ddirwy yma ac yn rhoi sbwriel mewn biniau, boed hynny'n gwm cnoi neu fath arall o sbwriel.
"Mae'r cyngor yn benderfynol o greu amgylchedd glanach a mwy diogel i drigolion ac ymwelwyr yn Sir Gaerfyrddin."
Yn ôl y cyngor mae'n costio oddeutu £30,000 y flwyddyn i dynnu gwm cnoi o'r strydoedd.
Straeon perthnasol
- Cyhoeddwyd5 Hydref 2012