Symud pobol o dai wedi tirlithriad
- Cyhoeddwyd
Mae ymchwiliad ar y gweill ar ôl tirlithriad yn ardal San Tomos, Abertawe.
Bu'n rhaid symud pobol o bedwar tŷ ar Gilgant Beaumont, tua 4:20am ddydd Sadwrn.
Chafodd neb eu hanafu.
Credir bod wal gynnal wedi dymchwel.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol