BBC Cymru Fyw

Caramel yn troi Nant Creuddyn yn frown

Published
image copyrightENVIRONMENT AGENCY
image captionMae'r dŵr wedi newid ei liw i frown

Mae swyddogion Asiantaeth yr Amgylchedd yn ymchwilio ar ôl i garamel hylifol ollwng i Nant Creuddyn sy'n llifo i'r Afon Teifi yng Ngheredigion.

Ar ôl i lori fod mewn damwain ar yr A482 ger Llanbedr Pont Steffan ddydd Gwener, fe wnaeth swm sylweddol o'i chargo o 6,000 tunnell o'r hylif gyrraedd y dŵr.

O ganlyniad mae'r dŵr wedi newid ei liw i frown.

Mae'r Asiantaeth yn parhau i gadw llygad ar Nant Creuddyn gan obeithio nad yw pysgod yn dioddef.

Gellir cysylltu â'r Asiantaeth drwy ffonio 0800 80 70 60.