Uwchgynghrair Blue Square

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, bbc

Tamworth 1-2 Casnewydd

Mae Casnewydd wedi dychwelyd i frig y gynghrair, diolch i goliau Ismael Yakubu ac Aaron O'Connor.

Fe wnaeth yr amddiffynnwr Yakubu benio i mewn o'r postyn pellaf o gornel Jake Thomson yn hwyr yn yr hanner cyntaf.

Roedd gôl Adam Cunnington yn rhyfeddol o debyg wrth i Tamworth ddod yn gyfartal wedi 61 munud.

Ond fe wnaeth O'Connor ergydio y tu mewn i'r cwrt cosbi i roi Casnewydd nôl ar y brig.

Wrecsam 2-1 Forest Green

Fe wnaeth Wrecsam fwrw Forest Green oddi ar frig y gynghrair, gan wneud ffafr â Chasnewydd wrth wneud.

Y Dreigiau aeth ar y blaen wrth i Adrian Cieslewicz ergydio o ymyl y cwrt cosbi i gornel chwith uchaf y gôl.

Cieslewicz ddyblodd y fantais, y tro hwn wedi 73 munud o du mewn y cwrt.

James Norwood sgoriodd i'r ymwelwyr gan sicrhau diweddglo cyffrous i'r gêm.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol