Ipswich 1-2 Caerdydd
- Cyhoeddwyd

Heidar Helguson yn dathlu ei gôl gyntaf
Mae Caerdydd nôl ar frig y bencampwriaeth ar ôl maeddu Ipswich mewn gêm gystadleuol iawn.
Aeth Ipswich ar y blaen oherwydd gôl ddadleuol gan DJ Campbell, oherwydd fe ddefnyddiodd ei law i lywio'r bêl i'r rhwyd eiliadau cyn yr egwyl, ond methodd y swyddogion â gweld hynny.
Y tîm cartref oedd yn rheoli tan i'r gôl-geidwad Scott Loach ollwng croesiad Craig Conway ac fe fanteisiodd Heidar Helguson o flaen y gôl wedi 62 munud.
Gyda dau funud i fynd, roedd amddiffyn bregus Ipswich ar fai gyda chamddealltwriaeth rhwng yr amddiffynwyr a'r gôl-geidwad ac roedd Helguson yno i benio croesiad Andrew Taylor i'r rhwyd.
Mae Ipswich nawr un o waelod y tabl, gyda phwynt yn fwy na Peterborough.
Straeon perthnasol
- 2 Hydref 2012
- 22 Medi 2012
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol