AC 'yn gwella' yn yr ysbyty
- Cyhoeddwyd

Mae cyflwr AC Llanelli, Keith Davies, yn gwella'n raddol, yn ôl llefarydd ar ran y Blaid Lafur.
Aed ag ef i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd ar Fedi 26.
"Mae e'n ymwybodol ac yn siarad ond yn parhau yn yr uned ddwys lle mae'n cael rhagor o brofion," meddai llefarydd ar ran y Blaid Lafur.
"Dymunai teulu Keith a Llafur Cymru ddiolch i'r bobl sydd wedi anfon negeseuon o gefnogaeth ac rydym yn edrych ymlaen at ei weld yn ôl yn y Cynulliad wedi iddo wella'n llawn."
Cafodd y gwleidydd 71 oed ei ethol i gynrychioli Llanelli yn 2011 ar ôl trechu Helen Mary Jones, Plaid Cymru, o 80 o bleidleisiau.
Cyn hynny roedd yn gynghorydd sir yn cynrychioli ward Hengoed Llanelli rhwng 2004 a 2008.
Mae hefyd yn gyn gyfarwyddwr addysg yn Sir Gaerfyrddin a Morgannwg Ganol.