BBC Cymru Fyw

Swyddi cwmni pizza yn y fantol

Published
image captionMae'r cwmni yn cyflogi 312 o bobl ar Lannau Dyfrdwy
Mae tua 450 o swyddi yn y fantol wrth i un o gynhyrchwyr mwyaf bwydydd pizza gael ei roi yn nwylo'r gweinyddwyr.
Mae'r gweinyddwyr wedi atal y gwaith cynhyrchu yn Paramount Foods ar Lannau Dyfrdwy ac yn cynnal trafodaethau brys gyda'r prif gwsmeriaid, gan gynnwys yr archfarchnadoedd.
Mae'r cwmni yn cyflogi 312 o bobl ar Lannau Dyfrdwy a 138 yn Salford.
Yn ôl y gweinyddwyr, mae trafodaethau yn cael eu cynnal yn y gobaith o ddod o hyd i brynwyr.