BBC Cymru Fyw

Cwpan FA - Yr enwau o'r het

Published
Cafodd yr enwau eu tynnu o'r het ar gyfer pedwaredd rownd rhagbrofol Cwpan yr FA.
Mae tri thîm o Gymru yn dal yn y gystadleuaeth, ac fe fydd dau arall - Caerdydd ac Abertawe - yn ymuno pan fydd y gystadleuaeth go iawn yn dechrau'n ddiweddarach eleni.
Fe fydd Wrecsam, o Uwchgynghrair Blue Square Bet, yn wynebu Southport o'r un adran ar y Cae Ras.
Taith i Yate yn Sir Gaerloyw sy'n wynebu Casnewydd. Mae Yate Town yn chwarae yng nghynghrair Evo-Stik - adran y de.
Mae Bae Colwyn yn wynebu gêm ail chwarae yn y drydedd rownd rhagbrofol yn erbyn Guiseley - mae'r ddau dîm yn chwarae yng Nghyngres y Gogledd - ac os byddan nhw'n fuddugol fe fyddan nhw'n croesawu naill ai Hednesford neu Buxton i Ffordd Llaneilian.