Bwrdd rheoli o dan y lach
- Published
Mae adroddiad wedi dweud bod swyddogion cyhoeddus a'u perthnasau wedi bod ar deithiau tramor "anghyfreithlon".
Aeth aelodau Bwrdd Rheoli Ffosydd Gwynllŵg a Chil-y-coed ar deithiau y talodd y trethdalwr amdanyn nhw i'r Eidal, Gogledd Iwerddon a'r Iseldiroedd.
Roedden nhw wedi honni eu bod yno er mwyn sesiynau arolygu.
Ond dywedodd Swyddfa Archwilydd Cymru fod y teithiau'n anghyfreithlon gan nad oedd achos busnes priodol "nac unrhyw ddull effeithiol o asesu'r manteision."
Mae'r bwrdd yn rheoli'r system ddraenio ar Wastadeddau Gwent, ardal o dir isel ar hyd yr arfordir rhwng Caerdydd a Chas-gwent.
Os nad yw'n cael ei draenio byddai'r ardal o dir amaethyddol, masnachol a phreswyl yn mynd o dan ddŵr yn rheolaidd.
'Yn is'
Mae'r bwrdd yn cyflogi 22 o aelodau o staff ac mae 37 o aelodau ar y bwrdd rheoli.
Ond mae'r adroddiad wedi dweud bod safonau'r bwrdd Draenio yn "is na'r hyn y mae gan y cyhoedd yr hawl i'w ddisgwyl."
Dywedodd yr Archwilydd Penodedig, Anthony Barrett, wrth gyhoeddi'r adroddiad: "Mae gwario arian yn ddoeth yn egwyddor sylfaenol cyrff cyhoeddus ond dengys tystiolaeth o'r archwiliad na ddilynwyd yr egwyddor hon bob amser.
"Mae'r ffaith bod y bwrdd wedi cydnabod difrifoldeb y materion a godwyd yn yr adroddiad a'i fod eisoes wedi dechrau rhaglen wella ... yn galonogol."
Yn ôl yr adroddiad, roedd y cyn-glerc a pheiriannydd Dean Jackson-Johns wedi cyfrannu at gyflwyno cynigion am ei gyflog ei hun.
Gordaliadau
Yr argymhelliad yw y dylai'r bwrdd ystyried adennill gordaliadau.
Yn 2006 cododd ei gyflog o £55,228 i £65,553 ac erbyn Ebrill 2010 roedd wedi codi i £83,122.28.
Dywedodd y bwrdd fod newidiadau mawr wedi bod, gan gynnwys rheolwyr newydd a chadeirydd newydd.
Dywedodd y cadeirydd Derek David: "Dros gyfnod o 12 mis mae'r bwrdd wedi cyflwyno rhaglen o newidiadau sylfaenol. Mae' rhaglen bron wedi ei chwblhau.
"Rydym wedi dysgu gwersi anodd gan fod agweddau amhriodol neu'n anghywir yn sut yr oeddem yn gweithio."