Gemau Cwpan Rygbi'r Byd i'w cynnal yn Stadiwm y Mileniwm?
- Published
Mae Stadiwm y Mileniwm ymhlith 17 o lefydd sydd wedi eu cadarnhau fel meysydd posib ar gyfer gemau Cwpan Rygbi'r Byd yn 2015.
Hefyd mae'r Stadiwm Olympaidd yn Llundain a phump o gaeau timau'r Uwch Gynghrair ar y rhestr.
Trefnwyr y bencampwriaeth sydd wedi llunio'r rhestr.
Stadiwm y Mileniwm yw'r unig leoliad y tu allan i Loegr ar y rhestr.
Cafodd gemau yng Nghystadleuaeth Cwpan Rygbi'r Byd 1999 eu cynnal yng Nghaerdydd wrth i Gymru gynnal y bencampwriaeth ar y cyd gyda Lloegr, Yr Alban a Ffrainc.
Roedd gemau hefyd y pryd hynny yn Wrecsam a Llanelli.
Fe agorodd Stadiwm y Mileniwm yn barod ar gyfer y bencampwriaeth ddiwedd 1999, gan gynnal y rownd derfynol rhwng Awstralia a Ffrainc.
Fe fydd y rhestr derfynol o 10-12 lleoliad yn cael eu cadarnhau yn gynnar yn y flwyddyn newydd.
Bydd hynny ar ôl i drefniadau'r gemau gael eu trefnu yn Llundain ar Ragfyr 3.
'Gweithio'n galed'
Dywedodd Prif Weithredwr Undeb Rygbi Cymru, Roger Lewis, eu bod yn falch iawn bod Stadiwm y Mileniwm ar y rhestr hir.
"Hoffwn gymryd y cyfle yma i ddymuno'n dda i'r trefnwyr sy'n gweithio'n galed i sicrhau pencampwriaeth arbennig.
"Mae'r Undeb yn gweithio'n galed gyda Llywodraeth Cymru a Chyngor Caerdydd er mwyn sicrhau bod modd gwahodd y byd i Gymru unwaith eto."
Mae'r bencampwriaeth wedi ei gwreiddio yn Lloegr ond ychwanegodd Mr Lewis bod o'n falch bod Cymru yn gallu chwarae rhan fechan yn y gystadleuaeth.
Er mai pencampwriaeth rygbi yw hon, dim ond tri lleoliad rygbi sydd ar y rhestr.
Gyda Stadiwm y Mileniwm y mae'r Kingsholm yng Nghaerloyw a Twickenham.
Dydi maes rygbi mwya Lloegr, Welford Road yng Nghaerlŷr ddim ar y rhestr.
O ran y meysydd pêl-droed y mae, Manchester United, Newcastle, Sunderland, Aston Villa a Southampton.
Hefyd ar y rhestr y mae Stadiwm Amex y Brighton, Ashton Gate ym Mryste, Pride Park yn Derby, Ricoh Arena yn Coventry, Elland Road yn Leeds a Stadiwm MK yn Milton Keynes yn ogystal â Wembley.
Dywed y trefnwyr, England Rugby 2015, bod rhaid gwerthu 2.9 miliwn o dicedi er mwyn gwarantu £80 miliwn sy'n ddyledus i'r Bwrdd rygbi rhyngwladol.